Cwrdd â'n tîm

Dechreuodd cyn-ysgol Benllech gyda gweledigaeth syml ond pwerus: creu gofod lle gallai plant ffynnu a darganfod eu potensial trwy addysg ddwyieithog. Mae ein hangerdd am addysgu yn cael ei adlewyrchu yn ein staff gyda chymhwyster cydnabyddedig mewn gofal plant, sy’n dod â chyfoeth o brofiad ac ymrwymiad dwfn i feithrin cariad at ddysgu ym mhob plentyn. Anogir yr holl staff i fynychu hyfforddiant ychwanegol i  ddatblygu eu gwybodaeth a’u sgiliau ymhellach.  Credwn yng ngrym cydweithio, o fewn ein tîm a chyda rhieni a sefydliadau lleol. Mae’r dull hwn a yrrir gan y gymuned yn ein galluogi i gynnig profiad addysgol cyfoethog sy’n gefnogol ac yn ddeinamig. Mae ein lleoliad yn cofleidio athroniaeth sy’n cael ei harwain gan y plentyn, sy’n annog archwilio a chreadigrwydd mewn amgylcheddau awyr agored a dan do. Rydym yn falch o gael ein cydnabod am ein hymroddiad i greu awyrgylch caredig a gofalgar lle mae plant yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u hysbrydoli.

 

Jackie Hall - Rheolwraig, CCLD Lefel 3 ar hyn o bryd yn astudio arweinyddiaeth a rheolaeth lefel 4, SENCO - Cydlynydd Anghenion Addysgol Arbennig, Cymorth Cyntaf Pediatrig, Diogelu categori C, Makaton Lefel 1 a 2, Diogelwch bwyd a hylendid lefel 2

Helo, Anti Jackie ydw i! A fi yw eich Rheolwr Cyn-ysgol, efallai y wnewch fy ngweld wrth y drws neu yn yr amser cylch

Mae gen i dros 20 mlynedd o brofiad yn gweithio yn y maes gofal plant, ac wedi mynychu llawer o wahanol gyrsiau i sicrhau fy mod yn cael y gwybodaeth ddiweddaraf am y Cwricwlwm i Gymru.

Rwyf hefyd yn rhedeg fy musnes therapi cyfannol fy hun. Rwy'n hoff iawn o weithgareddau crefft, yoga ac ymwybyddiaeth gofalgar.

Yn fy amser hamdden rwy'n mwynhau gwneud gemwaith, darllen a mynd am dro.

Edrychaf ymlaen at gael llawer o hwyl gyda'r plant, gan eu helpu i ddatblygu eu sgiliau iaith, eu lles corfforol, emosiynol a meddyliol.

 

Trish Abusalam - Dirprwy Reolwr - CCLD lefel 3. Ar hyn o bryd yn astudio arweinyddiaeth a rheolaeth lefel 4, SENCO - Cydlynydd Anghenion Addysgol Arbennig, Elklan lefel 2, Makaton Lefel 1 a 2, Diogelu categori b, Diogelwch bwyd a hylendid lefel 2.

Helo, Anti Trish ydw i. Rydw i wedi bod yn gweithio yn y Cyn-ysgol ers bron i 9 mlynedd bellach. Rydw i wedi dod yn ôl i'r gwaith yn ddiweddar ar ôl cael fy mabi cyntaf, Idris - fy myd!

Rydw i yn mwynhau cefnogi’r plant ym mhob agwedd o ddatblygiad, gan gynnwys unrhyw feysydd y gallai fod angen cymorth ychwanegol arnynt (fel ein Cydlynydd Anghenion Ychwanegol cyn-ysgol, byddaf yn cefnogi eich plant gyda’u lleferydd, iaith a chyfathrebu). 

Yn fy amser hamdden rwy’n mwynhau treulio amser gyda fy nheulu, ac yn y misoedd cynhesach byddaf ar y traeth neu’r llyn fel arfer, a dyna pam mae’n debyg fy mod yn treulio cymaint o amser ym mhwll tywod y Cyn-ysgol wedi’i orchuddio â thywod gyda’r plant!

 

Steph - CCLPD lefel 2 (bron wedi'i chwblhau ac yna yn symud ymlaen i lefel 3), Makaton Lefel 1 a 2, Diogelwch bwyd a hylendid lefel 2, cymorth cyntaf pediatrig

Helo! Anti Steph ydw i. Mae gen i ddau fachgen ifanc fy hun, sy'n fy nghadw'n brysur iawn!

Rwy'n mwynhau amser tu allan a darllen yn fy amser hamdden.

Byddwch yn dod o hyd i mi yn rhannu makaton gyda'r plant i annog lleferydd, iaith a chyfathrebu.

 

Rachael - wrthi yn cwblhau CCLPD lefel 2, lefel makaton 1 a 2, diogelwch bwyd a hylendid lefel 2

Helo! Anti Rach ydw i. Mae gen i ddau fachgen, Cai ac Eli, sy'n hoff o fy nghadw ar flaenau fy nhraed!

Rwyf yn hoff o badlo a chwarae gyda'r holl blant.

Rwyf yn hoffi bod allan a phlannu yn yr ardd gyda'r plant fel y gallwn wylio'r hyn a blannwyd gennym yn tyfu.4

 

Stacey - CCLD lefel 2, Makaton lefel 1 a 2,  diogelwch bwyd a hylendid lefel 2

Helo! Anti Stacey ydw i. Rydw i yn byw ym Mangor gyda fy nheulu. Rwy’n hoff iawn o anifeiliaid ac yn hoff iawn o deithio.

Dwi'n hoff iawn o grefftau a chwarae blêr. Fedra’ i ddim aros i ddod i adnabod eich plentyn, i’w helpu i ddysgu a thyfu a darparu lle gwych a diogel iddynt yma yng Nghyn-ysgol Benllech.

 

Meet Our Team

Benllech Preschool began with a simple yet powerful vision: to create a space where children could thrive and discover their potential through bilingual education. Our passion for teaching is reflected in our highly qualified staff that hold a recognised qualification in childcare, who bring a wealth of experience and a deep commitment to fostering a love for learning in every child. All staff are encouraged to attend additional training to  further develop their knowledge and skills.  We believe in the power of collaboration, both within our team and with parents and local organisations. This community-driven approach allows us to offer an enriching educational experience that is both supportive and dynamic. Our award-winning setting embraces a child-led philosophy, encouraging exploration and creativity in both outdoor and indoor environments. We are proud to be recognised for our dedication to creating a kind and caring atmosphere where children feel valued and inspired.

 

Jackie Hall - Manager - CCLD level 3 currently studying leadership and management level 4, SENCO - Special Educational Needs Coordinator, Pediatric First Aid, Safeguarding cat C, Makaton Level 1&2, Food safety & hygiene level 2

Hello I'm Auntie Jackie! I am your Preschool Manager, you may see me on the door or at circle time

I have over 20 years experience working in childcare, and have attended many different courses to ensure that I keep up to date with the Curriculum for Wales

I also run my own holistic therapy business. I am a big lover of craft activities, yoga and mindfulness.

In my spare time I enjoy making jewellery, reading and going for a walk

I look forward to having lots of fun with the children, helping them develop on their language skills, physical, emotional & mental wellbeing  

 

Trish Abusalam - Deputy Manager - CCLD level 3 currently studying leadership and management level 4, SENCO - Special Educational Needs Coordinator, Elklan level 2, Makaton Level 1 & 2, Safeguarding cat b, Food safety and hygiene level 2

Hello, I'm Auntie Trish. I’ve been at Preschool for almost 9 years now. I have recently come back to work after having my first baby, Idris- who is my whole world!

I enjoy supporting the children in every aspect of development, including any areas they may need extra support (as our pre-schools Additional Needs Coordinator, I will support your children with their speech, language and communication). 

In my spare time I enjoy spending time with my family, and in the warmer months I’ll usually be found at the beach or the lake, which is why I probably spend so much time in the Preschools sandpit covered in sand with the children!

 

Steph - CCLPD level 2 (nearly completed then moving onto her level 3), Makaton Level 1 & 2, Food safety & hygiene level 2, Pediatric first aid

I am Auntie Steph, I have two young boys of my own, who keep me very busy.

I enjoy exploring outside and reading in my spare time.

You will find me sharing makaton with the children to encourage speech, language and communication.

 

Rachael - completing CCLPD level 2, makaton level 1 & 2, Food safety and hygiene level 2,

Hi, I’m Auntie Rach. I have 2 boys, Cai and Eli, that like to keep me on my toes!

I like having a paddle and getting stuck in with all the children.

I like being outside and planting in the garden with the children so that we can watch what we planted grow.

 

Stacey - CCLD level 2, Makaton level 1 & 2, Food safety and hygiene level 2

Hi, I’m Auntie Stacey. I live in Bangor with my family. I’m a big animal lover and a big lover of travelling.

I love crafts and messy play. I can’t wait to get to know your child, to help them learn and grow and provide them with a great, safe place here at Benllech Pre-school.

Get in Touch!

Are you interested in learning more about Cynysgol Benllech Preschool? We'd love to hear from you!